- Shopping
- |
- Dining
- |
- Whats On
- |
- Visitor Info
- |
- News & Offers
- |
- Love Cardiff
- |
- Living
- |
-
About Us
- Datblygiad
- |
- Oriel
- |
- Prydlesu
- |
- Masnacheiddio
- |
- Cymuned
- |
Prydlesu
Mae datblygiad Dewi Sant sydd werth £675 miliwn wedi rhoi bywyd newydd i’r byd manwerthu a hamdden yng Nghaerdydd, gan ei gwneud yn brifddinas sydd â llawer i'w gynnig i'w hymwelwyr. Mae pensaernïaeth ystyriol Dewi Sant yn cyd-fynd yn berffaith â’r arcedau o amgylch ac mae ochr allanol y cynllun wedi cael budd o waith tirweddu helaeth a darnau celf gyhoeddus syfrdanol, gan ei gwneud yn ardal arddull piazza i gerddwyr ag ymdeimlad Ewropeaidd hamddenol.
Mae gennym restr drawiadol o fanwerthwyr a bwytai eisoes ac mae gennym gyfleoedd cyffrous ar gael o hyd a allai fod o fudd i'ch brand. Os ydych yn credu y gallai'ch busnes ymgartrefu yn Dewi Sant gallwch fod yn sicr y byddwch mewn cwmni da. Gyda’r John Lewis mwyaf y tu allan i Lundain a siopau Debenhams a Marks & Spencers ar eu newydd wedd, fel prif denantiaid y cynllun, yn ogystal â brandiau enwog fel Hugo Boss, Radley, Kurt Geiger, Jamie's Italian a Carluccio i enwi ond ychydig.
Rydym yn disgwyl i 30.5 miliwn ymweld â’r ganolfan y flwyddyn nesaf, ac felly bydd poblogrwydd Caerdydd fel lleoliad manwerthu a hamdden yn sicr o godi ar raddfa fawr. Felly peidiwch â gwastraffu munud arall, dewch i weld dros eich hun.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd Dewi Sant neu i drefnu ymweliad, cysylltwch ag un o’n hasiantau isod;
