Telerau ac Amodau

1 Eich Cytundeb â’r Telerau ac Amodau hyn

Darllenwch y Telerau ac Amodau hyn yn ofalus cyn edrych ar y wefan hon neu ei defnyddio. Drwy edrych ar y wefan hon neu ei defnyddio rydych yn arwyddo eich dealltwriaeth ac yn cytuno i'r Telerau ac Amodau hyn. Darperir y wybodaeth, gwasanaethau a deunyddiau ar y wefan hon gan Land Securities Group plc yn amodol ar eich cytundeb i’r Telerau ac Amodau canlynol. Dylid darllen y Telerau ac Amodau hyn ar y cyd â pholisi preifatrwydd y wefan hon.

2 Cywirdeb Gwybodaeth

Er bod Land Securities Group plc wedi cymryd pob gofal rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth, gwasanaethau a deunyddiau sydd wedi’u cynnwys ar ei wefan yn gywir, nid yw unrhyw sylw, gwarant nac amod, a fynegir neu a awgrymir, yn cael ei wneud i’w cywirdeb neu gyflawnrwydd. Nid yw Land Securities Group plc yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw anghywirdeb neu hepgorion o'i wefan a chaiff unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu niwed waeth sut y cânt eu hachosi a godir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o ddefnyddio'r wybodaeth, gwasanaethau a deunyddiau hyn ei eithrio drwy hyn. Caiff yr holl wybodaeth, gwasanaethau a deunyddiau eu darparu "fel sydd yn" ac "fel sydd ar gael" heb unrhyw warant o unrhyw fath. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod cywirdeb, cyflawnrwydd ac addasrwydd yr holl fanylion am gyngor, gwasanaethau a gwybodaeth eraill a ddarperir ar y wefan yn eich bodloni cyn gweithredu arnynt.

3 Dim Cyngor na Chynnig

Nid yw’r wefan hon yn cynnwys cynnig, neu wahoddiad i wneud cynnig ar gyfer cyfranddaliadau neu warantau eraill yn Land Securities Group plc a’i is-gwmnïau, nac yn darparu na chynnwys unrhyw gyngor neu argymhelliad mewn cysylltiad â chaffael neu gael gwared ar unrhyw fuddsoddiad neu unrhyw benderfyniad neu drafodyn buddsoddi arall. Dylai buddsoddwyr fod yn ymwybodol nad yw perfformiad blaenorol cyfranddaliadau neu unrhyw warantau arall Land Securities Group plc yn arwydd o’u perfformiad yn y dyfodol. Gallai pris gwarantau ac incwm a ddaw ohonynt leihau yn ogystal â chynyddu ac mae’n bosibl na fydd buddsoddwyr yn adennill y swm a fuddsoddwyd yn wreiddiol. O dan unrhyw amgylchiadau ni all y wybodaeth a gaiff ei chynnwys ar y wefan hon ei thrin fel unrhyw gyngor cyfreithiol, buddsoddi, treth nac unrhyw gyngor arall. Os bydd angen cyngor o’r fath arnoch, dylech gysylltu â’ch ymgynghorwyr proffesiynol eich hun.

4 Nodau Masnach a Hawlfraint

Mae Land Securities, Land-Flex, Land-Tech, Land-Plus, Making Property Work, Capital Commitment a Trillium (a'u logos perthnasol pan yn briodol) yn nodau masnach cofrestredig Land Securities plc a Land Securities Trillium Limited. Gallai rhai enwau, geiriau, ymadroddion, logos, graffeg neu gynlluniau tudalennau o’r wefan hon gynnwys enwau masnach neu nodau masnach heb eu cofrestru y mae aelodau o Land Securities Group yn berchen arnynt.

Mae’r holl ddeunydd ar y wefan hon (yn ogystal â threfniant a chynllun y wefan) yn berchen gan ac yn amodol ar hawlfraint Land Securities Group plc a gellir eu gweld, eu lawrlwytho neu eu hargraffu at ddefnydd personol anfasnachol yn unig. Ni allwch gopïo, dosbarthu neu drosglwyddo unrhyw ddeunydd ar y wefan hon, yn llawn neu’n rhannol heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Land Securities Group plc. Yn benodol ni allwch ddefnyddio rhan o’r wefan hon nac unrhyw wefan arall, neu gysylltu unrhyw wefan arall â’r wefan hon heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Land Securities Group plc.

5 Cysylltiadau â Gwefannau Eraill

Gallai’r wefan hon gynnwys cysylltiadau at wefannau eraill er cyfleustra i ddefnyddwyr yn unig. Nid ydym yn gyfrifol am y cynnwys, ac nid oes gennym reolaeth dros gynnwys nac argaeledd unrhyw wefan arall yr ydych wedi cyrraedd y wefan hon drwyddi neu y gallech fod wedi mynd drwy hyperddolen o'r wefan hon ac ni allwn fod yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir o ganlyniad i chi'n defnyddio unrhyw wefan arall yr ydych wedi mynd ati drwy hyperddolen i neu o’r wefan hon. 

6 Cyfraith Llywodraethu ac Awdurdodaeth

Caiff y Telerau ac Amodau hyn eu llywodraethu gan a'u creu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr ac rydych yn cytuno y bydd llysoedd Lloegr yn cael awdurdodaeth gyfyngedig mewn unrhyw anghydfod.


Os nad ydych yn cytuno i rwymo i’r Telerau ac Amodau hyn, gofynnwn i chi adael y wefan hon.