Atyniadau

Mae Caerdydd yn llawn pethau i’w gweld a’u gwneud yn amrywio o leoliadau hanesyddol ac addysgol i atyniadau hwyliog a bywiog i'r teulu.

Am restr lawn o’r atyniadau ewch i www.cardiffandco.co.uk

 
Castell Caerdydd

Castell Caerdydd

Canol y Ddinas 

Yno ers 2000 o flynyddoedd, mae Castell Caerdydd yn un o drysorau mwyaf godidog y ddinas. Ewch am dro o gwmpas gerddi prydferth y castell neu gymryd taith o amgylch y bensaernïaeth ryfeddol a’r ystafelloedd hyfryd.  Ewch i’r ganolfan ddehongli am stori castell Caerdydd o’r dechrau yn y cyfnod Rhufeinig hyd at heddiw!  (Tocyn hanfodol £8.95/£6.35 a Thaith Bremiwm £11.95/£8.50)

Arddangosfa Doctor Who

Arddangosfa Doctor Who

Bae Caerdydd 

Yn yr arddangosfa hwyliog a rhyngweithiol hwn cewch weld y Cybermen, Daleks, gwisgoedd a phropiau o’r gyfres ddiweddaraf o Doctor Who, lle ffilmiwyd y rhan fwyaf  ohoni yng Nghaerdydd ac o amgylch, ac o’r gyfres wreiddiol yn y 70au!   Ymweliad hanfodol i selogion y Doctor!  (Mynediad, Oedolion £5.50, Plant a Chonsesiynau £4, Teulu £16 - 2+2)

 

Stadiwm Y Mileniwm

Stadiwm Y Mileniwm

Canol y Ddinas 

Digwyddiadau chwaraeon mawr, cyngherddau gwych ac un o leoliadau gorau’r DU.  Mae Stadiwm y Mileniwm yn stadiwm 74,000 amlbwrpas modern sy’n croesawu dros 1.3m o ymwelwyr y flwyddyn.  Tu allan i'w galendr digwyddiadau llawn gallwch gymryd taith o’r stadiwm; cerdded i lawr twnnel y chwaraewyr, eistedd yn y bocs Brenhinol a darganfod melltith  ystafelloedd newid y timau ymweld.  (Pris taith: Oedolion £6.50, Plant £4, archebwch ymlaen llaw)

 

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Canol Caerdydd

Dysgwch am ddinosoriaid, y gofod, y byd colledig a’n byd ni drwy archwilio Amgueddfa Genedlaethol odidog Cymru.  Mae'r amgueddfa yn enwog ledled y byd fel cartref i un o’r casgliadau gorau o baentiadau Argraffiadwyr tu allan i Baris pan adawyd y casgliad celf eang yn gymynrodd i'r oriel yng nghanol yr 20fed Ganrif gan ddwy chwaer gyfoethog Gymraeg. Mae’r casgliad yn cynnwys campweithiau gan Renoir, Monet a Cezanne. (Mynediad am ddim, ar gau ar ddydd Llun ac eithrio gwyliau banc)

 

Canolfan Mileniwm Cymru

Canolfan Mileniwm Cymru

Bae Caerdydd

Mae Canolfan Mileniwm o fri Cymru, ym Mae Caerdydd, yn un o leoliadau celfyddydau perfformio mwyaf arloesol a bywiog Ewrop.  Mae’n darparu llwyfan o'r radd flaenaf ar gyfer bale, opera, dawns a sioeau cerdd, ynghyd â pherfformiadau am ddim yn y cyntedd, teithiau, arddangosfeydd a dewis o fariau a bwytai.

 

Amgueddfa Werin Sain Ffagan Cymru

Amgueddfa Werin Sain Ffagan Cymru

Caerdydd        

Dewch i ddysgu sut mae pobl Cymru wedi byw ac esblygu dros y 500 mlynedd diwethaf yn un o arddangosfeydd awyr agored mwyaf Ewrop.  Mae gan y parcdir 100 acer dros ddeugain o adeiladau gwreiddiol a gasglwyd o bob cwr o Gymru ac a ailadeiladwyd yn yr amgueddfa hwyliog hon.  (Ar agor o 10am – 5pm bob dydd, ac ar ddyddiau Llun Gwyl y Banc.  Mynediad am ddim)

Techniquest

Techniquest

Bae Caerdydd

Ewch am dro i fyd o wyddoniaeth a thechnoleg yn Techniquest, gyda thros 100 o arddangosfeydd ymarferol, posau a gweithgareddau rhyngweithiol i ddifyrru’r teulu i gyd. Ewch i weld sioe yn y Theatr Wyddoniaeth neu gymryd taith o'r Bydysawd yn y Planetariwm.  (Mynediad, Oedolion £7.00, Plant a Chonsesiynau £5.00, Tocyn Teulu £23.00)