Bywyd Nos

Daw Caerdydd yn fyw gyda'r nos a rhywbeth i bawb o fwytai godidog a bariau gwin i glybiau nos bywiog sydd ar agor tan oriau man! 
Am restr lawn o’r atyniadau bywyd nos, ewch i www.cardiffandco.co.uk

 

Heol Eglwys Fair

Mae’r sin gyda’r nos yng Nghaerdydd yn cylchdroi o amgylch Heol Eglwys Fair gyda’i dewis eang o fariau, tafarndai a chlybiau. Mae bariau poblogaidd fel Walkabout, Edwards a Life ar agor yn hwyr, ac os bydd y tywydd yn braf, fe allwch chi fwynhau diod ar derasau awyr agored Lôn y Felin neu yn ardal yr Hen Fragdy.

Bae Caerdydd

Mae Cei’r For-forwyn ym Mae Caerdydd yn fan poblogaidd.  Gallwch eistedd yn edrych dros y dwr mewn bariau gwych gan gynnwys; Salt, Terra Nova a'r bar dimsum a choctels - Bar Orient.   Mae hefyd ystod eang o lefydd bwyta.  Mae’r Ganolfan Red Dragon gerllaw yn gartref i nifer o fariau a thafarndai yn ogystal a sinema aml-sgrîn a bowlio deg.

Heol Y Brodyr Llwydion

Mae Heol y Brodyr Llwydion yn cynnig dewis arall i brysurdeb Heol Eglwys Fair. Mae’n gartref i nifer o fariau coctels a gwin soffistigedig megis Fatcats, Tiger Tiger, Ha Ha’s a Laguna.  Rownd y gornel ym Mhlas Windsor mae bariau trendi megis Buffalo Bar a 33 Windsor Place. 

Cerddoriaeth Fyw

Mae artistiaid rhyngwladol fel Madonna, U2 a Robbie Williams i gyd wedi perfformio yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd, a bydd bandiau’n aml yn ymddangos mewn neuaddau mawr fel Arena Ryngwladol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd fel rhan o’u teithiau drwy’r DU. Ond er mwyn clywed y bandiau a’r cerddorion lleol mwyaf newydd, yna ewch i glybiau llai sy'n arbenigo mewn cerddoriaeth fyw fel yr enwog Clwb Ifor Bach neu Barfly Caerdydd.

Clybiau

Mae gan Gaerdydd sin glybio cryf sy’n cynnwys clybiau poblogaidd; Liquid, Oceana ac Evolution, yn ogystal â lleoliad hoyw/cymysg mwyaf Caerdydd, Club X.