Cerdyn Anrheg

Cerdyn Anrheg

Beth am roi’r gorau i feddwl am anrhegion drwy brynu Cerdyn Anrheg Dewi Sant?


Gellir defnyddio’r cerdyn fel unrhyw gerdyn debyd a gellir ei wario drwy ganolfan Dewi Sant gyfan, gan roi cyfle i’r sawl sy’n ei dderbyn wario eu hanrheg ar unrhyw beth o’u dewis.  P’un a yw’n bâr hyfryd o esgidiau, y persawr diweddaraf neu hyd yn oed pryd o fwyd blasus yn un o’n bwytai, gallwch fod yn sicr y bydd rhywbeth perffaith i bawb.

Gellir rhoi unrhyw swm o £5 i £1000* ar y Cerdyn Anrheg, gan roi hyblygrwydd i chi ddewis eich swm.  Unwaith bydd y cerdyn wedi’i gredydu â’r swm o ddewis, mae’n barod i’w wario ar unwaith.  Gallwch gadw golwg ar y balans drwy ymweld â’r desgiau gwybodaeth i gwsmeriaid neu drwy ffonio 0870 730 7343.

I gael rhagor o wybodaeth neu i brynu Cerdyn Anrheg Dewi Sant, ewch i un o’r desgiau gwybodaeth i gwsmeriaid sydd wedi’u lleoli y tu allan i Debenhams neu o dan y grisiau symudol yn Arcêd Fawr.

* caiff cost gweinyddu ychwanegol o £2 ei ychwanegu ar adeg prynu’r cerdyn