Rhaglen Gelf

Mae Rhaglen Gelf Gyhoeddus Dewi Sant yn gyfres o brojectau celf a ariennir gan Bartneriaeth Dewi Sant fel rhan o'r gwaith o adfywio Canol Dinas Caerdydd. Mae’r projectau hyn yn amlygu bywiogrwydd tir y cyhoedd ac ansawdd bywyd yng Nghaerdydd yn ogystal â’r safon uchel o ddarpariaeth ddiwylliannol a ddatblygir ledled Cymru.

 
Cynghrair

Cynghrair

Yn weledol, mae ‘Cynghrair’ yn ymddangos ei fod wedi aros mewn amser, fel delwedd wedi’i rhewi o degan mawr mewn cydbwysedd peryglus rhwng llyfrgell newydd Caerdydd a strydoedd hanesyddol yr ardal. Mae’r gwaith coffaol hwn yn dwyn ynghyd saeth oleddol fawr a chylch wedi’i lenwi â hylif sy'n codi a disgyn gyda symudiad y llanw. Gyda’r nos, bydd taflunydd o du mewn i’r saeth yn dangos testun yn Gymraeg a Saesneg gan yr awdur o Gaerdydd, Peter Finch, gan ddefnyddio haenau o hanes dinesig a phresennol Caerdydd. Bydd cyrff pobl sy’n cerdded heibio yn gweithredu fel sgriniau gan amgáu ymwelwyr i ganol y ddinas yng nghynnydd Caerdydd drwy amser a hynny mewn ffordd symbolaidd.

Artist: Jean-Bernard Metais

 

Haig

Haig

Ar ochr ddwyreiniol y canol mae ffasâd allanol ramp y maes parcio aml-lawr wedi cael ei animeiddio gan ddefnyddio cyfryngau modern; gan greu ymdeimlad o ddrama, sioe a natur chwareus. Mae’r darn celf rhyngweithiol hwn yn gyfres o gyfryngau cyfochrog fertigol sy’n cynnwys 90,000 o oleuadau LED sy’n goleuo i gynrychioli symudiadau heigiau o bysgod yn y môr. Caiff y goleuadau eu cynnal gan ddarn clyfar o feddalwedd a adeiladwyd yn arbennig sydd wedi’i chysylltu â chyfrifiadur a chyfres o synwyryddion lle gall y cyhoedd ddylanwadu ar y goleuadau yn y gwaith celf drwy sŵn neu symudiad.


Artist: Nayan Kulkarni

Hunaniaeth; Gêm Gwyddbwyll

Hunaniaeth; Gêm Gwyddbwyll

Cafodd y project Hunaniaeth ei gredu i drwytho cymeriad lleol a chenedlaethol cryf i gynllun ac ymddangosiad Dewi Sant, Caerdydd ac i gyflwyno elfennau sy'n benodol i fywyd a diwylliant Cymru a'i phrifddinas. Mae’r gweithiau hyn yn canolbwyntio ar fynegiad naratif hanesyddol neu fodern gwirioneddol a storïol o ddiwylliant a bywyd Caerdydd a Chymru gyfan. Gweithiodd Partneriaeth Dewi Sant gyda thîm bach o artistiaid i ddatblygu cynigion ar gyfer gweithiau sy’n cyfeirio at hanes rhyfeddol y rhan hon o’r ddinas. Mae Bedwyr Williams wedi cynllunio ardal chwarae gwyddbwyll awyr agored a chyfres o ddigwyddiadau a thwrnameintiau hwyl a rhyngweithiol cysylltiedig a gaiff eu cynnal yn yr Aes. Gellir llogi gemau gwyddbwyll am flaendal bychan o Neuadd Dewi Sant.

Artist: Bedwyr Williams

Hunaniaeth; Cyfrinachau Caerdydd

Hunaniaeth; Cyfrinachau Caerdydd

Cafodd y project Hunaniaeth ei gredu i drwytho cymeriad lleol a chenedlaethol cryf i gynllun ac ymddangosiad Dewi Sant, Caerdydd ac i gyflwyno elfennau sy'n benodol i fywyd a diwylliant Cymru a'i phrifddinas. Mae’r gweithiau hyn yn canolbwyntio ar fynegiad naratif hanesyddol neu fodern gwirioneddol a storïol o ddiwylliant a bywyd Caerdydd a Chymru gyfan. Gweithiodd Partneriaeth Dewi Sant gyda thîm bach o artistiaid i ddatblygu cynigion ar gyfer gweithiau sy’n cyfeirio at hanes rhyfeddol y rhan hon o’r ddinas. Mae Cyfrinachau Caerdydd yn gyfres o 13 o flociau resin o feintiau amrywiol ac oddi mewn y blociau mae cymysged o ddeunyddiau gwreiddiol a gasglwyd gan y testun Cymraeg hynafol 'Y Mabinogion' a thrwy drafod a chydweithio ag ymwelwyr â’r ddinas. 

Artist: Lesley Kerman

Hunaniaeth; Cyfrinach Pyst

Hunaniaeth; Cyfrinach Pyst

Cafodd y project Hunaniaeth ei gredu i drwytho cymeriad lleol a chenedlaethol cryf i gynllun ac ymddangosiad Dewi Sant, Caerdydd ac i gyflwyno elfennau sy'n benodol i fywyd a diwylliant Cymru a'i phrifddinas. Mae’r gweithiau hyn yn canolbwyntio ar fynegiad naratif hanesyddol neu fodern gwirioneddol a storïol o ddiwylliant a bywyd Caerdydd a Chymru gyfan. Gweithiodd Partneriaeth Dewi Sant gyda thîm bach o artistiaid i ddatblygu cynigion ar gyfer gweithiau sy’n cyfeirio at hanes rhyfeddol y rhan hon o’r ddinas. Gan gydweithio â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, datblygodd Jane Edden gyfres o folardiau pwrpasol wedi’u lleoli ar hyd yr Aes. Mae’r bolardiau yn cynnwys golygfeydd a ddatblygwyd a modelwyd gan fyfyrwyr y coleg a gall pobl sy’n cerdded heibio weld y bydoedd bach hyn drwy edrych i mewn i dyllau yn y 12 post arbennig.

Artist: Jane Edden

Wal Ganoloesol y Dref

Wal Ganoloesol y Dref

Gan ddathlu hanes canoloesol y ddinas a choffáu llinell Wal Ganoloesol y Dref sy’n ymestyn gerllaw ceir gwaith celf modern sy’n amgylchynu’r ardal wydr yn nho a llawr y groesffordd rhwng Ffordd Dewi Sant a Wal y Dref.

Cafodd cynllun y darn uwchben a grëwyd gan Kathy Dalwood ei ysbrydoli gan hanes canoloesol y safle a cherfiadau cerfluniol o ddechrau’r ugeinfed ganrif a ganfuwyd yn Neuadd y Ddinas a Llysoedd Barn Caerdydd sy’n cyfeirio at hanes Caerdydd fel porthladd masnachu i’r byd, gan gynnwys cychod, ffrwythau egsotig a delweddau Rhufeinig.

Mae cynllun llawr Anne Smyth yn ymgorffori symlrwydd graffig delweddau canoloesol, yn enwedig y symbolau sy’n cyfeirio at ddefnydd y safle fel canolfan fasnachu ers y canol oesoedd. Mae perimedr y cynllun wedi’i osod mewn chwe adran o garreg arw gyferbyniol ym mhatrwm Wal y Dref. Mae chwe thoriad yn y cynllun yn awgrymu chwe gât Wal y Dref. Mae’r llawr yn cynnwys paled naturiol, bron yn fonoton, o gerrig i ategu cryfder y calchfaen cyfoethog, cynnes, melyn sy’n cynnwys y llawr o amgylch. Ychwanegir diddordeb i’r darn drwy amrywiaeth o orffeniadau gweadog ar y cerrig a chynnwys nodweddion gwydr sy’n cynrychioli darnau arian canoloesol a gedwir yn Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

Artistiaid: Kathy Dalwood ac Anne Smyth

Croesffordd Ganolog – Manylion y Llawr Pensaernïol

Croesffordd Ganolog – Manylion y Llawr Pensaernïol

Wedi’i gynllunio gan y prif benseiri 'Benoy' i ddod ag ymdeimlad o Gymreictod i'r ganolfan mae manylion y llawr pensaernïol ar y groesffordd ar lawr gwaelod yr Arcêd Fawr yn dangos dwy linell enwog o’r Anthem Genedlaethol.

TRA MÔR YN FUR I’R BUR HOFF BAU,
O BYDDED I’R HENIAITH BARHAU.

Artistiaid: Prif Benseiri Dewi Sant, ‘Benoy’